Os hoffech weld neu gael copi o'r wybodaeth sydd gennym amdanoch, gallwch wneud Cais Gwrthrych am Wybodaeth neu SAR trwy lenwi y ffurflen Cais Gwrthrych am Wybodaeth sydd ar gael yn y Practis
Dylai eich cais nodi eich bod yn gwneud cais i gael mynediad at eich gwybodaeth eich hun, drwy nodi ‘cais gwrthrych am wybodaeth’ yn glir ar eich cais. Bydd rhoi digon o wybodaeth i ni yn ein galluogi i ddod o hyd i'ch gwybodaeth ofynnol mewn modd amserol. Rhowch ddyddiad ar eich cais a rhowch:
Lle bo angen, efallai y bydd arnom angen prawf adnabod derbyniol a chyfeiriad yn cynnwys un eitem o Restr A ac un o Restr B:
Bydd pob cais yn cael ei gofnodi ac fel arfer yn cael ymateb o fewn 30 diwrnod. Os yw eich cais yn gymhleth neu'n cael ei ystyried yn ormodol, efallai y bydd angen amser ychwanegol arnom i ystyried eich cais a all gymryd hyd at ddau fis ychwanegol. Fodd bynnag, byddwn yn rhoi gwybod i chi os yw hyn yn wir.
Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau ni fyddwn yn codi tâl i gyflawni’ch cais, fodd bynnag, efallai y codir ffi resymol am weinyddu’r cais mewn rhai achosion, er enghraifft, os credwn fod eich cais yn amlwg yn ddi-sail neu’n ormodol neu lle gofynnir am gopïau pellach o wybodaeth. .
Y Practis yw'r rheolydd data ar gyfer cofnodion iechyd Cleifion sydd wedi cofrestru gyda ni.
Lle nad yw unigolyn wedi’i gofrestru gyda meddyg teulu ar hyn o bryd neu ei fod wedi marw, yna cedwir y cofnodion hyn gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP). Ewch i wefan NWSSP am ragor o wybodaeth.
Ceisiadau Gwrthrych am Wybodaeth (SARs) a phlant
Gall plentyn arfer ei hawliau diogelu data ei hun cyn belled ag y bernir ei fod yn gymwys i wneud hynny. Yn gyffredinol, ystyrir bod plant 13 oed a throsodd yn gymwys i wneud SAR oni bai bod gwybodaeth i awgrymu fel arall. Os nad oes gan y plentyn (o unrhyw oedran) ddealltwriaeth ddigonol i arfer ei hawliau ei hun, gallwch ganiatáu i berson â chyfrifoldeb rhiant arfer hawl y plentyn i wneud SAR.
Os gwneir SAR ar ran plentyn y bernir nad oes ganddo alluedd i weithredu ar ei ran ei hun, gellir anfon gwybodaeth at berson sydd â chyfrifoldeb rhiant. Fodd bynnag, nid yw hwn yn benderfyniad y dylid ei wneud yn awtomatig. Ym mhob achos dylid ystyried lles pennaf y plentyn. Mae’n bosibl cyfyngu ar wybodaeth rhag mynd i riant os nad yw’n cael ei ystyried i fod er lles gorau’r plentyn, er enghraifft, lle mae nodiadau “peidio â datgelu” ar gofnod y plentyn.
Ceisiadau Gwrthrych am Wybodaeth Trydydd Parti
Gall unigolion awdurdodi trydydd parti (er enghraifft, cyfreithwyr) i wneud SAR ar eu rhan. Dylai darparwyr iechyd a gofal sy’n rhyddhau gwybodaeth i gyfreithwyr sy’n gweithredu ar ran eu cleifion a defnyddwyr gwasanaeth sicrhau bod ganddynt ganiatâd ysgrifenedig yr unigolyn.
Mae’n bwysig gwahaniaethu rhwng SARs (a wneir gan rywun sy’n gweithredu ar ran y claf) a cheisiadau a wneir o dan y Ddeddf Mynediad at Adroddiadau Meddygol (AMRA). Gwneir ceisiadau o dan yr AMRA gan drydydd parti nad yw o reidrwydd yn gweithredu ar ran y claf - er enghraifft, cwmni yswiriant.
Os yw’r cais gan y cyfreithiwr am gopi o gofnod iechyd y claf a’r defnyddiwr gwasanaeth (neu ddarnau o’r cofnod) ystyrir ei fod yn SAR. Os yw’r cais yn gofyn i adroddiad gael ei ysgrifennu, neu’n gofyn am ddehongliad o’r wybodaeth yn y cofnod, byddai’r cais hwn yn mynd y tu hwnt i SAR. Mae'n debygol y bydd ceisiadau o'r fath yn dod o dan y fframwaith AMRA y gellir codi ffioedd amdano.