Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion Y Meddygfa

Gorffennaf 2025

1af Gorfennaf 2025 Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi bod Dr Oliver Falk yn ailymuno â'r Practis fel Meddyg Teulu Cyflogedig.  Bydd gan Dr Falk feddygfeydd ar draws ein dau safle.

Arolwg Profiad GIG Cymru Fel rhan o'r Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, mae'n ofynnol i Feddygfeydd ofyn i groestoriad o gleifion am eu profiadau o ddefnyddio Gwasanaethau GIG Cymru. Darperir y cwestiynau i ni gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac maent yn cynnwys adran ar fonitro cydraddoldeb.

Gallwch gwblhau'r arolwg drwy'r ddolen ar-lein hon Eich Profiad Chi o GIG Cymru  2025/2026 

Hefyd gallwch ofyn yn y dderbynfa am gopi papur i'w gwblhau.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth a chanlyniadau arolygon y blynyddoedd blaenorol yma Arolwg Cleifion

 

Mehefin 2025
Yn ystod mis Mehefin, rydym wedi croesawu Tomos, Myfyriwr Meddygol Prifysgol Abertawe, ar leoliad yn y Practis i ennill profiad Gofal Sylfaenol hanfodol. 


Mai 2025
Mae'r Practis wedi croesawu Alice i'r tîm derbynfa a gweinyddu i lenwi absenoldeb mamolaeth. Gwerthfawrogir eich cydweithrediad a'ch amynedd wrth i Alice ymgyfarwyddo â pholisïau a gweithdrefnau'r Practis a derbyn hyfforddiant.

Mae'r Practis ar gau ar y Gwyliau Banc canlynol ym mis Mai, dydd Llun Mai 5ed a dydd Llun Mai 26ain.
Os oes angen cyngor arnoch pan fydd y Practis ar gau, ffoniwch GIG Cymru ar 111
Am gymorth iechyd meddwl ffoniwch 111 dewiswch opsiwn 2


Ebrill 2025

Bydd y Practis ar gau ar y gwyliau cyhoeddus canlynol, dydd Gwener 18 Ebrill (dydd Gwener y Groglith) a dydd Llun 21 Ebrill (Dydd Llun y Pasg), i gael cyngor brys pan fydd y Practis ar gau ffoniwch GIG Cymru ar 111

Ym mis Ebrill rydym yn croesawu Chris, Meurig a Johh, Myfyrwyr Meddygol ar leoliad i gael profiad Gofal Sylfaenol. 

 

Mawrth 2025

Bydd y Practis yn cynnig Atgyfnerthiad Gwanwyn Brechu Covid i gleifion cymwys o 1 Ebrill 2025.

Mae'r tîm gweinyddol wedi dechrau cysylltu â chleifion cymwys dros y ffôn a thrwy wahoddiad neges destun ar gyfer y brechlyn hwn. Cynhelir clinigau ym Meddygfa Casnewydd a Bro Preseli, Crymych yn ystod mis Ebrill 2025.
Am ragor o wybodaeth ewch i  Brechiadau ac Imiwneiddiadau yn y Practis

 

Ionawr 2025
Oherwydd newidiadau sydd ar ddod yn ein systemau clinigol, rydm yn symud i ffwrd o Fy Iechyd Ar-lein.  Rydym yn cynghori cleifion sy'n defnyddio'r gwasanaeth hwn are hyn o bryd i ofyn am feddyginiaeth amlorddadwy ac i apwyntiadau, newid i Ap Gig Cyrmu.  Ceir rhagor o wybodaeth am yer Ap ar y ddolen hon Hafan - Ap GIG Cymru

Rhagfyr 2024 
Rydym wedi croesawu Sarah Parkes i tîm Nyrsio. Mae gan Sarah sawl blwyddyn o brofiad fel Nyrs Cymunud a bydd yn cynnal clinigau ar draws safleoedd y ddau Feddygfa. Gwerthfawrogir eich cydweithrediad wrth i Sarah ymgyfarwyddo â pholisïau a phroses ein Practis. Diolch

Tachwedd 2024 
Rydym wedi croesawu Clare James i'n tîm Nyrsio. Mae gan Clare sawl blwyddyn o brofiad fel Nyrs Practis a bydd yn cynnal clinigau ar draws safleoedd y ddau Feddygfa. Gwerthfawrogir eich cydweithrediad wrth i Clare ymgyfarwyddo â pholisïau a phroses ein Practis. Diolch

Trist yw cyhoeddi for Nerys Nicholas, Nyrs y Feddygfa, yn ein gadael are 14eg Tachwedd  i gymryd swydd newdd. Bydd colled ar ôl Nerys gan tîm a Staff y Practis, a dymunwn yn dda i Nerys i’r dyfodol.
Bydd manylion am ychwanegiadau at ein tîm Nyrsio yn cael eu rhannu yma maes o law

 

Hydref 2024
Ym mis Hydref rydym yn croesawu Branwen, Ysgol Feddygol Abertawe ar leoliad yn y Practis.

Clinigau Brechu
Mae clinigau Brechlyn Ffliw yn cael eu cynnal ar draws safleoedd y ddau Feddygfa yn ystod mis Hydref ac i mewn i fis Tachwedd. Os ydych chi'n gymwys ac yn dymuno cael y brechiad ffliw, cysylltwch â'r Practis i drefnu apwyntiad.
Bydd brechlynnau Covid Autumn Booster yn cael eu cynnig i gleifion cymwys, yn dibynnu ar argaeledd. Bydd ein timau derbyn a nyrsio yn gallu rhoi cyngor pellach.
Efallai y bydd fferyllfeydd cymunedol lleol hefyd yn gallu cynnig y Covid Booster.

 

Medi 2024

Ym mis Medi rydym yn croesawu Myfyriwr Meddygol Ffion Abertawe a Rosie, myfyrwraig Feddygol Caerdydd 5ed blwyddyn ar leoliad yn y Practis

Mae Dr Norhan Shaykhon, Meddyg Blwyddyn Sylfaen 2 wedi ymuno â'r Practis ers deuddeg mis i ennill Profiad Gofal Sylfaenol.

Awst 2024

Rydym yn croesawu Dr Bethan Green a Dr Lucy Chibueze Cofrestryddion Meddygon Teulu sy'n ymuno â'r Practis ar 7fed Awst fel rhan o'r Hyfforddiant Meddygon Teulu.

Bydd Dr Green a Dr Chibueze yn cael cyfnod sefydlu byr ac yna bydd apwyntiadau ar gael ar ddau safle. 

 
Wythnos y 5ed o Awst. 
Rydym wedi ffarwelio â Dr Ananda Wickramaarachchi - Cofrestrydd Meddygon Teulu ers mis Awst 2023, a Meddygon Blwyddyn Sylfaen Dau Sylfaen Dr Lewis Hancock, gyda ni ers mis Ebrill 2024. Dymunwn yn dda i'r ddau ohonynt wrth iddynt symud ymlaen i leoliadau newydd.