Arolwg Profiad GIG Cleifion Ebrill 2026
Fel rhan o'r Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, mae'n ofynnol i Feddygfeydd ofyn i groestoriad o gleifion am eu profiadau o ddefnyddio gwasanaethau GIG Cymru. Darperir y Cwestiynau i ni gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac maent yn cynnwys adran ar fonitro cydraddoldeb.
Rydym yn gwahodd cleifion i gymryd rhan yn Arolwg Profiad GIG Cleifion 2026. Rhannwch eich barn i’n helpu i wella ein gwasanaethau.
Defnyddiwch y ddolen hwn Arolwg Profiad GIG Cleifion i gymryd rhan.
Rhannir canlyniadau’r arolwg blaenorol 2025 ,yn ystod mis Ebrill.
Canlyniadau Arolwg Blaenorol
Diolch i bob claf sydd wedi cwblhau Profiad y GIG i Gleifion yn y blynyddoedd blaenorol.
Gellir cael mynediad at ganlyniadau'r arolwg drwy'r dolenni isod.
Patient Experience Survey 2023/2024 - Preseli Practice (nhs.wales)
O ganlyniad i arolwg 2023 2024, mae'r Practis wedi cyflwyno ffurflen adborth electronig, i ganiatáu i gleifion a'u cynrychiolwyr roi awgrymiadau neu sylwadau ynghylch eu gofal iechyd a'r gwasanaethau y mae'r Practis yn eu darparu.
Gellir dod o hyd i'r ffurflen adborth yma Adborth Cleifion
Gallwch bostio ar bapur trwy ddefnyddio'r blychau dynodedig yn y dderbynfa neu ei rhoi i dderbynnydd.
Diolch.