Neidio i'r prif gynnwy

Hyffordi

Rydym yn darparu lleoliadau hyfforddi ar gyfer meddygon cymwys iau a Myfyrwyr meddygol
 
Mae'r Meddygfa yn teimlo ei bod yn hanfodol cefnogi cenedlaethau o feddygon yn y dyfodol i gael profiad o weithio mewn Practis Meddyg Teulu gwledig.
 
Mae Cofrestryddion Meddygon Teulu yn feddygon cwbl gymwys sy'n hyfforddi mewn Ymarfer Cyffredinol ac sydd fel arfer gyda'r Practis rhwng 6 a 12 mis.

Mae Meddygon Blwyddyn Sylfaen Dau yn feddygon cwbl gymwys sydd gyda'r Practis am 4 mis i brofi sut mae Gofal Sylfaenol yn gweithredu. 

Ar ôl cyfnod sefydlu byr mae pob Meddyg yn dechrau gweld cleifion yn eu meddygfeydd eu hunain ar draws ein dau safle. Cânt eu goruchwylio gan y meddygon teulu sy'n gweithio'r diwrnod hwnnw.
 
Myfyrwyr Meddygol Mae'r Practis yn croesawu myfyrwyr meddygol blwyddyn olaf o Ysgolion Meddygol Caerdydd ac Abertawe, gall hyn fod rhwng wythnos a 2 fis.
Mae hwn yn gyfle gwych i fyfyrwyr meddygol gael profiad uniongyrchol o Ofal Sylfaenol.

Bydd Myfyrwyr Meddygol fel arfer yn eistedd gydag un o'r tîm clinigol am rai wythnosau ac yna'n dechrau gweld cleifion dan oruchwyliaeth.  

Os byddai'n well gennych i fyfyriwr beidio â bod yn bresennol yn eich ymgynghoriad, rhowch wybod i ni.  Diolch.