Cyhoeddwyd set newydd o safonau gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Mawrth 2019 gyda’r nod o godi a gwella lefel y gwasanaeth i gleifion yng Nghymru gan eu practisau meddygon teulu.
Y safonau yw:
- Mae pobl yn cael ymateb prydlon i'w cysylltiad â phractis meddyg teulu dros y ffôn.
- Mae gan bractisau systemau ffôn priodol ar waith i gefnogi anghenion pobl gan osgoi'r angen i ffonio'n ôl sawl gwaith a byddant yn gwirio eu bod yn ymdrin â galwadau yn y modd hwn.
- Mae pobl yn derbyn gwybodaeth ddwyieithog am wasanaethau lleol a brys wrth gysylltu â phractis.
- Mae pobl yn gallu cael gwybodaeth am sut i gael cymorth a chyngor.
- Mae pobl yn derbyn y gofal cywir ar yr adeg gywir mewn ffordd gydgysylltiedig sy'n seiliedig ar eu hanghenion.
- Gall pobl ddefnyddio amrywiaeth o opsiynau i gysylltu â'u practis meddyg teulu.
- Gall pobl anfon e-bost at bractis i ofyn am ymgynghoriad nad yw'n frys neu alwad yn ôl.
- Mae practisau'n deall anghenion pobl yn eu practis ac yn defnyddio'r wybodaeth hon i ragweld y galw ar eu gwasanaeth