Ydych chi'n wirfoddol yn gofalu am rywun sy'n sâl, yn fregus neu sydd â chyflwr cronig, anabledd corfforol, anhawster dysgu, problem iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau? Os felly, rydych yn Ofalwr a hoffem eich cefnogi.
Mae gennym ddiddordeb mewn nodi Gofalwyr gwirfoddol sydd wedi cofrestru ym Meddygfa Casnewydd a Chrymych, yn enwedig y bobl hynny a all fod yn gofalu heb gymorth na chefnogaeth. Os ydych yn Ofalwr gwirfoddol, gofynnwch yn y Dderbynfa am Ffurflen Cofrestru ac Atgyfeirio Gofalwr y gallwch ei chwblhau i roi gwybod i ni am eich cyfrifoldebau gofalu
Grŵp Gofalwyr Ar-lein - mae’r grŵp yn cyfarfod ar-lein fel arfer ar ddydd Iau cyntaf pob mis, i rannu gwybodaeth, cyngor a chynnig cymorth i’w gilydd. Cynhelir y grŵp hwn gan Julie Campbell, Cysylltydd Cymunedol.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y grŵp, cysylltwch â Melanie Stark ym Meddygfa Preseli drwy e-bostio enquiries.PreseliPractice@wales.nhs.uk at sylw Melanie, neu ffoniwch 01239 820397
Gwasanaeth cymorth ffôn
Hafal Crossroads Gwasanaeth Gwybodaeth a Chymorth i Ofalwyr Sir Benfro (PCISS) a chymorth i gyfeirio at y gwasanaeth sydd ei angen arnoch.
Ffon. 01437 611002 E-bost: PCISS@hafal.org
Mae gan Carers UK awgrymiadau defnyddiol ar eu gwefan - Wales | Carers Wales (carersuk.org)
Os hoffech dderbyn galwad gan un o'u gwirfoddolwyr hyfforddedig, anfonwch e-bost at membership@carersuk.org.
Grŵp Cefnogi Gofalwyr Bro Cerwyn - ar gyfer teulu a ffrindiau pobl ag afiechyd meddwl. Bob dydd Iau rhwng 3pm a 4pm Cysylltwch â Rachael Bird am wybodaeth: 07970 435 965 E-bost: rachael.bird@hafal.org
Defnyddiwch y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth ddefnyddiol i Ofalwyr, gan gynnwys Asesiadau Anghenion Gofalwyr
Sir Caerfyrddin Cefnogaeth i ofalwyr (llyw.cymru)
Ceredigion Gofalwyr -Gofalwyr Ceredigion Carers - Cyngor Sir Ceredigion
Cyngor Sir Penfro Gofalwyr Di-dal - Cyngor Sir Benfro (sir-benfro.gov.uk)