Os ydych yn 65 oed a throsodd, argymhellir eich bod yn cael eich brechu rhag niwmonia.
Mae rhai cleifion â chyflyrau cronig penodol, sydd o dan 65 oed, hefyd yn gymwys i gael y brechiad hwn.
Dim ond un brechiad niwmonia sydd ei angen ar y rhan fwyaf o bobl yn ystod eu hoes.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn NHS 111 Wales - Brechiadau
Os ydych yn gymwys ac yn dymuno cael y brechiad niwmonia, trefnwch apwyntiad gydag un o'r Tîm Nyrsio Practis.