Neidio i'r prif gynnwy

Brechu Covid - Atgyfnerthiad Gwanwyn 2025

Bydd y Practis yn cynnig Brechu Covid  Atgyfnerthiad Gwanwyn i gleifion cymwys o 1 Ebrill 2025.

Mae'r tîm gweinyddol wedi dechrau cysylltu â chleifion cymwys dros y ffôn a thrwy wahoddiad neges destun ar gyfer y brechlyn hwn. Cynhelir clinigau ym Meddygfa Casnewydd a Bro Preseli, Crymych yn ystod mis Ebrill 2025.

Mae'r Practis yn dilyn protocolau Llywodraeth Cymru  mae rhagor o wybodaeth ar gael yma Rhaglen frechu’r gwanwyn COVID-19 2025 (WHC/2024/047) [HTML] | LLYW.CYMRU


Pwy sy'n gymwys?

  • oedolion 75 oed a throsodd
  • preswylwyr mewn cartref gofal i oedolion hŷn
  • unigolion 6 mis oed a throsodd sydd ag imiwnedd gwan (fel y’i diffinnir yn nhablau 3 neu 4 ym mhennod COVID-19 yn y Llyfr Gwyrdd)    COVID-19: the green book, chapter 14a - GOV.UK

Os ydych yn gymwys nid oes yn rhaid i chi aros i ni eich gwahodd, cysylltwch â'r Feddygfa ar 01239 820397 neu 01239831234 a gall tîm y dderbynfa drefnu apwyntiad i chi.

Os nad ydych yn dymuno cael y brechiad ac wedi derbyn gwahoddiad, rhowch wybod i ni fel y gallwn ddiweddaru eich cofnodion.