Neidio i'r prif gynnwy

Brechiadau Ffliw

Brechiadau ffliw tymhorol 2024

Mae'r Practis yn cynnig 'brechiad ffliw i bob claf cymwys. Bydd clinigau yn dechrau wythnos gyntaf mis Hydref.
Bydd y Practis yn dechrau gwahodd cleifion cymwys yn ystod mis Awst
Os ydych yn gymwys, peidiwch ag aros i'r Feddygfa gysylltu â chi, trefnwch apwyntiad trwy siarad â'r derbynnydd neu os oes gennych fynediad ar-lein fe welwch fod apwyntiadau ar gael trwy Fy Iechyd Ar-lein.I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau ar-lein gweler Fy Iechyd Ar-lein

Cleifion cymwys
Rydych yn gymwys i gael y brechiad ffliw yn y Practis os  ydych yn unrhyw un o'r categorïau canlynol

Eich dyddiad geni yw cyn 31 Mawrth 1960
Neu
Rydych yn byw mewn lleoliad gofal preswyl
Mae gennych anabledd dysgu
Mynegai màs eich Corff (BMI) yw 40 neu fwy.
Plant 2 neu 3 oed ar 31 Awst 2024 - ar gyfer brechlyn ffliw trwynol

Os oes gennych un o'r amodau canlynol;
Clefyd anadlol cronig - e.e. COPD  neu Asthma sydd angen meddyginiaeth steroid reolaidd
Clefyd yr Afu Cronig
Clefyd yr Arennau Cronig
Clefyd Cronig y Galon
Diabetes
Asplenia  neu yn goeliag
Imiwnedd wedi'i atal oherwydd cyflwr neu driniaeth
Clefyd Niwrolegol Cronig  - e.e. Parkinson's, Epilepsi, Clefyd Niwronau Motor, parlys yr ymennydd.
Salwch Meddwl Difrifol

Os ydych yn ansicr a ydych yn gymwys, gofynnwch i aelod o dîm y Practis.

Bydd y canlynol yn cael eu Brechiad Ffliw yn yr ysgol
Blynyddoedd 1 - 12

Bydd y canlynol yn cael eu brechiad ffliw trwy eu cyflogwr
Gweithiwr Gofal Iechyd
Gweithiwr Gofal Cymdeithasol
Staff cartrefi gofal

Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru unwaith y bydd rhagor o wybodaeth ar gael.