Neidio i'r prif gynnwy

Apwyntiadau

Mae'r Practis yn gweithredu system apwyntiadau gyda holl aelodau'r tîm clinigol, ar safleoedd Crymych a Trefdraeth

Efallai y gofynnir i chi fynychu'r naill safle neu'r llall os ydych yn gofyn am weld clinigwr penodol neu os oes angen gwasanaeth penodol arnoch.

Rhowch y rheswm dros eich apwyntiad i'r derbynnydd, mae hyn yn sicrhau eich bod yn cael apwyntiad gyda'r aelod tîm mwyaf priodol.
Efallai y bydd y derbynyddion yn cynghori dull gweithredu gwahanol, e.e. eich bod yn cysylltu ag optegydd, deintydd neu'n ceisio gofal brys ar unwaith.

  • Gallwch drefnu apwyntiadau yn bersonol neu drwy ffonio'r Feddygfa rhwng 8am a 6.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
  • Os ydych wedi cofrestru ar gyfer Fy Iechyd Ar-lein, gallwch wneud rhai apwyntiadau gan ddefnyddio'r gwasanaeth hwn.
    Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma Fy Iechyd Ar-Lein

Mae'r Meddygon a'r Uwch Ymarferydd Parafeddygol yn cynnig ymgynghoriadau wyneb yn wyneb a thros y ffôn.
Bob dydd mae gennym apwyntiadau wedi'u cadw ar gyfer achosion brys, gallwch hefyd drefnu apwyntiadau ymlaen llaw ar gyfer ymholiadau ac adolygiadau arferol.
 
Mae'r Tîm Nyrsio yn cynnig amrywiol apwyntiadau wyneb yn wyneb a chlinigau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma Tîm Nyrsio'r Feddygfa