Neidio i'r prif gynnwy

Adborth Clefiion a Codi Pryderon

Mae Meddygfa Preseli wedi ymrwymo i ddarparu gofal rhagorol i gleifion.

Mae adborth cleifion yn chwarae rhan hanfodol yn ein hymdrechion parhaus i wella gwasanaethau ac ansawdd gofal.

Gellir cyflwyno adborth am ein gwasanaethau trwy'r blwch "Adborth Cleifion" yn y dderbynfa neu'n electronig gan ddefnyddio'r ddolen isod.

Preseli Practice Patient Feedback (office.com)  

Beth i'w wneud os oes gennych bryder

Yn aml gellir delio â'r pryder trwy siarad ag aelod o Dîm y Feddygfa.

• Gallwch godi'r mater gydag aelod o staff a fydd yn ceisio ei ddatrys ar unwaith

• Gallwch ofyn am gael siarad â Mrs Julie Evans, Rheolwr Practis neu Mrs Francesca Phillips Rheolwr Cynorthwyol y Feddygfa 01239 820397

• Os yw'n well gennych gyflwyno'ch pryder yn ysgrifenedig, a fyddech cystal â chynnwys cymaint o wybodaeth â phosibl, a chyfeiriwch eich llythyr at Mrs Julie Evans, Rheolwr Practis.

Beth fydd y Practis yn ei wneud.

• Os na ellir datrys y pryder ar unwaith bydd y Practis yn cydnabod eich pryder yn ysgrifenedig o fewn dau ddiwrnod gwaith.

• Bydd manylion y pryder yn cael eu rhannu gyda'r Partneriaid yn y Feddygfa cyn gynted â phosibl.

• Os yw'r pryder yn ymwneud â rhywun heblaw chi'ch hun, bydd angen caniatâd ysgrifenedig y claf cyn y gall y Practis ymateb yn llawn.

• Er mwyn ymchwilio i'r pryder, mae'n bosibl y bydd angen i'r Practis gael mynediad i'ch cofnodion meddygol, ac os nad ydych yn dymuno hyn, rhowch wybod i Reolwr y Practis yn ysgrifenedig.

• Bydd y pryder yn cael ei ymchwilio a byddwn yn anelu at roi ymateb llawn i chi o fewn 30 diwrnod gwaith. Os na allwn fodloni'r amserlen hon am unrhyw reswm, byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi.

• Bydd y Practis yn darparu ymateb sy'n cynnwys esboniad, ymddiheuriad os yw'n briodol, a pha gamau y mae'r Practis yn eu cymryd neu wedi'u cymryd i helpu i atal unrhyw broblemau tebyg yn y dyfodol.

Os ydych yn dymuno codi pryder gyda rhywun heblaw'r Practis.

Gwasanaethau Cefnogi Cleifion Os yw eich pryder yn ymwneud â gofal neu wasanaethau a dderbyniwyd gan wasanaethau Cymunedol neu Ysbyty neu Fferyllfa gallwch gysylltu â Thîm Gwasanaethau Cefnogi Cleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Ffôn: RHADFFÔN 0300 0200 159

Ysgrifennwch at:

Adborth Rhadbost yn Hywel Dda,
Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg,
Heol Abergwaun,
Hwlffordd,
SA61 2PZ

Llais Cymru 

Os ydych angen cymorth i godi pryder, gall Llais – eich llais mewn iechyd a gofal cymdeithasol eich helpu i wneud hyn.

Mae Llais yn gorff annibynnol ac mae ei gwasanaeth eiriolaeth am ddim yn gallu darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i aelodau o'r cyhoedd sydd am godi pryder.

Gall Llais eich cynorthwyo i godi pryder a rhoi cyngor ar y camau mwyaf priodol i'w cymryd.

Gallwch gysylltu â swyddfa leol Llais drwy’r 

Ffôn: 01646 697610 Ebost: westwalesadvocacy@llaiscymru.org

Llais – Gorllewin Cymru, 
Adeiladau’r Llywodraeth
Teras Picton
Caerfyrddin
SA31 1BT

I gael mynediad at wefan Llais ewch i: Codi pryder am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol | Llais